- Thumbnail

- Resource ID
- 582aec90-14a2-11ed-a733-0a19d1d81121
- Teitl
- Ardal Adnodd Ynni Amrediad y Llanw
- Dyddiad
- Awst 5, 2022, canol nos, Publication Date
- Crynodeb
- Mae Ardal Adnoddau amrediad y llanw yn dangos dosbarthiad gofodol adnoddau naturiol sydd, o ran dichonoldeb technegol (dyfnder dŵr ac amrediad llanw) yn unig, â photensial i gefnogi gweithgarwch y sector. Nid yw mewn unrhyw ffordd yn nodi unrhyw briodoldeb o weithgarwch posibl yn y sector o fewn yr ardaloedd hyn. Mae Ardal Adnoddau amrediad y llanw yn seiliedig ar ddyfnder uchaf o 25m islaw datwm siart a chymedr amrediad gorllanw o fwy na 6m. Diffiniwyd Ardal Adnoddau amrediad y llanw gan ddefnyddio data amrediad y llanw o Atlas of UK Marine Renewable Energy Resources (ABPmer, 2008) a data bathymetreg o OceanWise Marine Themes Digital Elevation Model (DEM) (OceanWise, 2014). Cafodd yr Ardal Adnodd ei ymestyn neu docio (fel y bo'n briodol) er mwyn cwrdd â’r marc penllanw cymedrig (wedi eu diffinio gan set data Ordnance Survey Boundary-line ym mis Mai 2022). ************************************************************* Tarddiad AA Mae Ardaloedd Adnoddau (AA) yn ardaloedd eang sy'n disgrifio, ar gyfer rhai sectorau, ddosbarthiad adnodd penodol sydd â'r potensial i'w ddefnyddio neu sy'n cael ei ddefnyddio. Nid yw tarddiad AA yn cynnwys ffactorau amgylcheddol, ac mae'n rhaid cynnal asesiad cyn rhoi trwydded; lle mae mwy o fanylion yn hysbys ar unrhyw gynnig. Gweler y datganiad ansawdd data a'r wybodaeth ategol yn y metadata llawn.
- Rhifyn
- --
- Responsible
- Hishiv.Shah
- Pwynt cyswllt
- Shah
- hishiv.shah@gov.wales
- Pwrpas
- --
- Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
- None
- Math
- vector
- Cyfyngiadau
- None
- License
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
- Iaith
- en
- Ei hyd o ran amser
- Start
- --
- End
- --
- Gwybodaeth ategol
- Er mwyn disgrifio dosbarthiad adnoddau naturiol a allai gefnogi datblygiad sectorau yn y dyfodol, mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC) yn nodi Ardaloedd Adnoddau ar gyfer sectorau penodol. Ardaloedd eang yw’r rhain sy’n disgrifio dosbarthiad adnodd penodol sydd â’r potensial i gael ei ddefnyddio gan sectorau morol penodol (e.e. agregiadau, dyframaethu neu ynni morol) neu sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ganddynt. Mae’r Ardaloedd Adnoddau hyn wedi cael eu hadnabod trwy broses o gasglu tystiolaeth a’i dehongli. Bydd Ardaloedd Adnoddau’n newid fel rhan o’r broses cynllunio morol wrth i’r ddealltwriaeth wella ac fel y bydd tystiolaeth bellach ar gael a/neu dechnolegau’r sector yn datblygu. Yn ychwanegol at Ardaloedd Adnoddau, sy'n dangos graddau gofodol llawn yr adnoddau naturiol sy'n berthnasol i sector, mae CMCC yn caniatáu ar gyfer nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol (AASau) ar gyfer rhai sectorau. Bydd AASau yn disgrifio ac yn diogelu (drwy weithredu polisi CMCC SAF_02) ardaloedd adnoddau naturiol arwahanol sydd â photensial realistig i gynnal defnydd cynaliadwy yn y dyfodol. Bydd nodi a diogelu AASau yn helpu i sicrhau bod buddiannau posibl sectorau o ran adnoddau yn cael eu hystyried yn gynnar, gan hwyluso deialog ragweithiol rhwng sectorau ac atal y posibilrwydd o sterileiddio adnodd.
- Ansawdd y data
- Mae Ardal Adnoddau amrediad y llanw yn seiliedig ar ddyfnder uchaf o 25m islaw datwm siart a chymedr amrediad gorllanw o fwy na 6m. Diffiniwyd Ardal Adnoddau amrediad y llanw gan ddefnyddio data amrediad y llanw o Atlas of UK Marine Renewable Energy Resources (ABPmer, 2008) a data bathymetreg o OceanWise Marine Themes Digital Elevation Model (DEM) (OceanWise, 2014). Cafodd yr Ardal Adnodd ei ymestyn neu docio (fel y bo'n briodol) er mwyn cwrdd â’r marc penllanw cymedrig (wedi eu diffinio gan set data Ordnance Survey Boundary-line ym mis Mai 2022). ABPmer (2008). Atlas of UK Marine Renewable Energy Resources. Dyddiad mynediad (01/12/2015) OceanWise (2014). Marine Themes Digital Elevation Model (DEM). Dyddiad mynediad (21/07/2022).
- Maint
-
- x0: -5.15000009536743
- x1: -2.65651798248291
- y0: 51.2863311767578
- y1: 53.5166702270508
- Spatial Reference System Identifier
- EPSG:4326
- Geiriau allweddol
- no keywords
- Categori
- Cefnforoedd
- Rhanbarthau
-
United Kingdom